Eluned Parrott 

14:57

 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd darlledu’r Cynulliad ar gyfer pobl anabl? OAQ(4)0074(AC)

 1. Will the Commission make a statement on the accessibility of Assembly broadcasting for people with disabilities? OAQ(4)0074(AC)

 Senedd.tv

 

FideoVideo

 

 Sandy MewiesBywgraffiadBiography 

 Comisiynydd y Cynulliad / Assembly Commissioner 

14:57

 I thank the Member for South Wales Central for the question. I should say in the first place that I think that all Members had a question about British Sign Language from a constituent in Newport. I have written to the gentleman, giving him a very full explanation of the situation as it is now and, maybe, as it will change in the future. I think that everybody here knows that we as an Assembly are committed to accessibility and to ensuring that everyone can engage with our work. We make reasonable adjustments for people with disabilities whenever we can. In June, Action on Hearing Loss awarded us the Louder than Words charter mark for reducing barriers for people who are deaf or have a hearing loss. In addition to the live online broadcast on Senedd.tv, a summary of Plenary business is published on our website within 30 minutes of the end of each meeting, with full transcripts available within 24 hours. As technology allows, we will give consideration to further options, such as signing or subtitling.

 Diolch i’r Aelod dros Ganol De Cymru am y cwestiwn. Dylwn ddweud, yn y lle cyntaf, y credaf fod pob Aelod wedi cael cwestiwn am Iaith Arwyddion Prydain gan etholwr yng Nghasnewydd. Rwyf wedi ysgrifennu at y gŵr, gan roi esboniad llawn iawn iddo o’r sefyllfa fel y mae yn awr, ac, efallai, sut y bydd yn newid yn y dyfodol. Credaf fod pawb yma’n gwybod ein bod ni fel Cynulliad yn ymrwymedig i hygyrchedd ac i sicrhau y gall pawb ymgysylltu â’n gwaith. Rydym yn gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Ym mis Mehefin, rhoddodd Action on Hearing Loss y nod siarter Yn Uwch na Geiriau i ni am leihau rhwystrau i bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Yn ogystal â’r darllediad ar-lein byw ar Senedd.tv, caiff crynodeb o fusnes y Cyfarfod Llawn ei gyhoeddi ar ein gwefan o fewn 30 munud i ddiwedd pob cyfarfod, gyda thrawsgrifiadau llawn ar gael o fewn 24 awr. Fel y mae technoleg yn ei ganiatáu, byddwn yn ystyried opsiynau pellach, fel arwyddo neu is-deitlo.

 Senedd.tv

 

FideoVideo

 

Eluned Parrott Bywgraffiad Biography 

  

14:59

Thank you very much for that answer, and thank you for the correspondence regarding the issue. As you say, there is no signing or subtitling, but I have had representations from people who say that some of the accessibility software that is available to read web pages has difficulty with the Assembly's Record. Does the Commission conduct a regular audit of the accessibility of our business here?

 Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb hwnnw, a diolch am yr ohebiaeth ynglŷn â’r mater. Fel y dywedwch, nid oes unrhyw arwyddo nac is-deitlo, ond yr wyf wedi cael sylwadau gan bobl sy’n dweud bod peth o’r feddalwedd hygyrchedd sydd ar gael i ddarllen tudalennau gwe yn cael anhawster gyda Chofnod y Cynulliad. A yw’r Comisiwn yn cynnal archwiliad rheolaidd o hygyrchedd ein busnes yma?

 Senedd.tv

 

FideoVideo

 

Sandy MewiesBywgraffiadBiography 

14:59

 I think that Peter Black was listening very carefully to what you said. I would imagine that it does happen, though I cannot say for sure. However, I am sure that he will be in touch with you, or at least someone from the Commission will give you a full answer on that. Perhaps I should say that the Assembly has the technical capacity to include in-vision British Sign Language signing for one meeting at present, and we are working with S4C on a pilot project to broadcast BSL interpretation for First Minister's questions. The signed broadcast feed will be shown on S4C’s ‘Y Dydd yn y Cynulliad’ programme on Tuesday evenings, and also on the Assembly’s internal television system. As part of the pilot we will evaluate how we can provide a BSL signing service in future, how effective it is, the benefits it delivers, and what the implications are in terms of the likely cost and resource implications of continuing or expanding the service. As part of the development of the new Senedd.tv service, we are aiming to implement a captioning system that will give us the ability to provide subtitles of proceedings. As this would be a brand-new service for the Assembly, we would need to take a detailed look at how it could be provided in terms of the resources and cost before a pilot could be set up.

 Credaf fod Peter Black wedi bod yn gwrando’n astud iawn ar yr hyn a ddywedasoch. Byddwn yn dychmygu ei fod yn digwydd, ond ni allaf ddweud yn sicr. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y bydd yn cysylltu â chi, neu y bydd o leiaf rywun o’r Comisiwn yn rhoi ateb llawn i chi ar hynny. Efallai y dylwn ddweud bod gan y Cynulliad y gallu technegol i gynnwys gwasanaeth arwyddo Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer un cyfarfod ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio gydag S4C ar brosiect peilot i ddarlledu gwasanaeth dehongli BSL ar gyfer cwestiynau i’r Prif Weinidog. Caiff y ffrwd darlledu wedi’i arwyddo ei ddangos ar raglen S4C ‘Y Dydd yn y Cynulliad’ ar nos Fawrth, a hefyd ar system deledu fewnol y Cynulliad. Fel rhan o’r cynllun peilot byddwn yn gwerthuso sut y gallwn ddarparu gwasanaeth arwyddo BSL yn y dyfodol, pa mor effeithiol ydyw, y manteision sydd ynghlwm ag ef, a’r goblygiadau o ran y gost a’r adnoddau tebygol y bydd eu hangen i barhau â’r gwasanaeth neu ei ehangu. Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth Senedd.tv newydd, rydym yn anelu at weithredu system penawdau a fydd yn ein galluogi i ddarparu is-deitlau o’r trafodion. Gan mai gwasanaeth newydd sbon ar gyfer y Cynulliad fyddai hwn, byddai angen i ni edrych yn fanwl ar sut y gallai gael ei ddarparu o ran yr adnoddau a’r gost cyn y gallai cynllun peilot gael ei sefydlu.

 Senedd.tv

 

FideoVideo

 

  

 

 We do provide a bilingual Record of Proceedings, as I have said, within 24 hours to ensure that all people in Wales have an opportunity to access an accurate and timely record of debates, which is considered best practice by Action on Hearing Loss. Before I finish, I think that I should pay tribute to the continuing work that Ann Jones does supporting people with hearing problems. She continues to bring such problems to our attention.

 Rydym yn darparu Cofnod dwyieithog o’r Trafodion, fel y dywedais, o fewn 24 awr i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i weld cofnod cywir ac amserol o ddadleuon, sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau gan Action on Hearing Loss. Cyn imi orffen, credaf y dylwn dalu teyrnged i’r gwaith parhaus y mae Ann Jones yn ei wneud i gefnogi pobl â phroblemau clyw. Mae’n parhau i ddod â phroblemau o’r fath i’n sylw.